Amdanom Ni
Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion
Trefniadau Lleol 2008
1. Cefndir
Gosododd Deddf Plant 2004 ofyniad statudol ar bob awdurdod lleol i bennu Bwrdd Lleol Diogelu Plant. Mae trefniadau lleol Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion yn seileidig ar ofynion Deddf Plant 2004, canllawiau ‘Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004’ (2006)
2. Diben
Prif ddiben Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Ceredigion yw diogelu plant rhag camdriniaeth, esgeulustod a chamfantais. Felly, y busnes craidd yw sicrhau bod arferion gwaith, polisïau a threfniadau effeithiol yn eu lle ledled asiantaethau a phartneriaethau i ddiogelu plant sy’n dioddef, neu sydd mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol, a’u bod yn cael eu cydlynu a’u monitro.
Ar ben hyn, bydd Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion yn cymryd rhan gyda phartneriaethau ac asiantaethau eraill mewn gwasanaethau cynllunio i blant er mwyn pennu mesurau i atal cam-drin, esgeuluso a chamfanteisio ar blant.
3. Yr Amcanion a’r Swyddogaethau.
Yn unol â Deddf Plant 2004, adran 31, mae amcanion Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion yn ddeublyg:
- Cydlynu’r hyn a wna pob person neu gorff a gynrychiolir ar y Bwrdd er diben diogelu a hyrwyddo lles plant yn ardal yr awdurdod lle y’i sefydlir; a,
- Sicrhau effeithlonrwydd yr hyn a wneir gan gorff neu berson o’r fath er y diben hwnnw.
Darlunir isod y llwybrau i gyflawni canlyniadau cyffredinol Bwrdd Lleol Diogelu Plant : -

Felly, mae Bwrdd Lleol Diogelu Lleol yn ffurfio’r mecanwaith statudol allweddol i gytuno ar y modd y bydd y sefydliadau perthnasol yn cydweithredu i ddiogelu a hyrwyddo lles plant Ceredigion ac i sicrhau effeithlonrwydd yr hyn a wnânt.
4. Sgôp Diddordeb y Bwrdd
Mae sgôp cyfrifoldebau Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion yn cwmpasu pob plentyn a pherson ifanc, ond yn enwedig y canlynol: -
- Plant mewn angen, yn enwedig plant sydd ag anghenion cymhleth a rhianta o dan fygythiad;
- Plant sy’n destun camdriniaeth ac esgeulustod mewn teulueodd, gan gynnwys y rhai sy’n destun cam yng nghyd-destun camdriniaeth ddomestig a/neu o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol/sylweddau;
- Plant sy’n destun camdriniaeth y tu allan i’r teulu gan oedolion a adnabyddant;
- Plant sy’n destun camdriniaeth neu esgeulustod gan ofalwyr proffesiynol a hynny mewn sefydliad neu yn unrhyw fan arall lle y mae plant yn destun gofal y tu allan i’r cartref;
- Plant sy’n destun camdriniaeth gan ddieithriaid;
- Plant sy’n destun candriniaeth gan bobl ifanc eraill;
- Plant sy’n cam-drin;
- Plant sy’n destun camdriniaeth drwy gamfantais rywiol;
- Plant sy’n camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill;
- Plant sy’n rhedeg o’u cartrefi neu o ofal;
- Plant sy’n mynd ar goll;
- Plant sy’n ceisio lloches gyda theuluoedd neu ar eu pennau eu hunain;
- Plant sydd ag anghenion penodol neu anableddau;
- Plant sydd yn y system troseddau ieuenctid.
5. Strwythur
Bydd gan Rwydwaith Bwrdd Lleol Datblygu Plant Ceredigion fwrdd craidd a grwpiau. Mae’r grwpiau yn atebol i’r Bwrdd Craidd ac yn adrodd yn ôl wrtho.
Aelodau’r Bwrdd Craidd.
Mae aelodau’r Bwrdd Craidd fel a ganlyn: -
Cyfarwyddwr Arweiniol Plant a Phobl Ifanc Ceredigion;
Cyfarwyddwr Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Ceredigion;
Cyfarwyddwr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion;
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Nyrsio a Chleifion, Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda;
Rheolwr Cyffredinol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda;
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion sy’n cynrychioli Hyfforddiant Troseddau Ieuenctid Ceredigion;
Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Adran Tai Ceredigion;
Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Lleol;
Nyrs Ddynodedig, GICC
Meddyg Dynodedig, GICC;
Rheolwr Ardal Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed-Powys;
Arolygydd, Heddlu Dyfed-Powys, Rhanbarth Ceredigion;
Cadeiryddion Grwpiau Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant.
Gweler Atodiad 1 am fanylion yr aelodau
Nid yw’r rhestr aelodau yn un gyflawn. Rhagwelir y bydd y Bwrdd Craidd yn galw am arbenigrwydd a chyngor arbenigwyr, pan fo rhaid, er diben cyflawni ei swyddogaethau.
Grwpiau Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion
Bydd pedwar Grŵp Lleol Diogelu Plant Ceredigion
- Grŵp Adolygu Achosion Difrifol, a fydd yn ystyried atgyfeiriadau at Gadeirydd Bwrdd Lleol Diogelu Plant, yn argymell i’r Cadeirydd a ddylai adolygiad achosion ddigwydd ac ymgymryd ag Adolygiadau Achosion Difrifol.
- Grŵp Pobl, a fydd yn mynd i’r afael â’r Amcan Cydlynu.
- Grŵp Gweithrediadau, a fydd yn mynd i’r afael â’r Amcan Sicrhau Effeithlonrwydd
- Grŵp Adnoddau, a fydd yn mynd i’r afael â’r gyllideb.
- Bydd cylch gorchwyl gan bob Grŵp Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant sy’n seiliedig ar yr ystod swyddogaethau a amlinellir yn Atodiad 2.
- Bydd gan bob Grŵp Rhwydwaith swyddogaethau craidd a swyddogaethau gorchwyl/gorffen ychwanegol fel sy’n rhaid yn ôl Cadeirydd Bwrdd Lleol Diogelu Plant.
- Bydd amlder cyfarfodydd y Grŵp Rhwydwaith yn dibynnu ar lwyth gwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant.
- Bydd Rhwydwaith y Bwrdd Lleol Diogelu Plant yn clustnodi asiantaethau sydd â swyddogaeth uniongyrchol ym maes diogelu a hyrwyddo lles plant, ond nad ydynt yn cael eu cynrychioli ar ffurf Bwrdd Craidd nac aelodau’r Grŵp Rhwydwaith er mwyn eu hymgysylltu wrth gyflawni’r amcanion a’r canlyniadau a chyfrannu at y swyddogaethau.
Atebolrwydd Bwrdd Craidd Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion
- Bod yn bartner diwyd yn y broses o ddiogelu a hyrwyddo lles plant;
- Cydweithio â phroffesiynolion/asiantaethau/partneriaethau eraill i ddod o hyd i atebion effeithiol i heriadau sy’n codi yn nhrefniadau rhyngasiantaethol y Bwrdd Lleol Diogelu Plant;
- Cynrychioli’r Bwrdd Lleol Diogelu Plant a’i weithgareddau yn eu sefydliad eu hunain;
- Sicrhau y lledaenir polisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Lleol Diogelu Plant yn effeithiol yn eu sefydliad;
- Cyfrannu at y Bwrdd Lleol Diogelu Plant naill ai yn ariannol neu mewn da;
- Darparu gwybodaeth rheoli fel bo rhaid;
- Clustnodi a chefnogi staff i gymryd rhan yng ngweithgareddau rhyngasiantaethol y Bwrdd Lleol Diogelu Plant;
- Sicrhau bod pob aelod o’r staff yn eu hasiantaeth eu hunain sydd â chysylltiad â phlant yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau ac y cânt gefnogaeth i gydymffurfio â gweithdrefnau a pholisïau diogelu plant; a,
- Chymryd dull cadarn a chynhwysol o ddatblygu’r arferion a’r gwasanaethau gorau a fydd yn diogelu plant ac yn hyrwyddo eu lles.
7. Trefniadaeth a Llywodraethu
Atebolrwydd
- Yng Ngheredigion, mae cyfrifoldeb arweiniol ar yr awdurdod lleol i sefydlu a gweithio’r Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant yn effeithiol;
- Mae pob aelod o Rwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion yn atebol am gyfrifoldebau ac yn berchen ar gyfrifoldebau diogelu plant a diogelu/hyrwyddo lles plant yn eu hasiantaeth;
- Mae cyfrifoldeb casgliadol ar bob asiantaeth sy’n gweithio â phlant a theuluoedd i ddiogelu plant ac amddiffyn y trefniadau;
- Bydd pob asiantaeth yn cydnabod ac yn ategu bod cyfrifoldeb statudol ar Rwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion i sicrhau effeithlonrwydd trefniadau a pherfformiad pob asiantaeth ym maes diogelu ac amddiffyn plant;
- Nid oes gan Rwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant swyddogaeth reoli mewn asiantaethau eraill na’r grym i gyfarwyddo sefydliadau eraill. Dylai fod yn destun perthynas ddylanwadol gydag asiantaethau a phartneriaethau cyfansoddol.
Perthynas Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion â Grwpiau Cynllunio a Rheoli eraill.
Mae perthynas strategol gan Rwydwaith Bwrdd Lleol Datblygu Plant Ceredigion â nifer o grwpiau cynllunio a rheoli, gan gynnwys: -
- Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc;
- Partneriaeth Diogelwch Cymunedol;
- Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles;
- Bwrdd Rheoli Cysgodol Dyfed Powys - Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd ;
- Bwrdd Rheoli Hyfforddiant Troseddau Ieuenctid.
Swyddogaeth Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion yw canolbwyntio’n annibynnol ar drefniadau diogelu plant ym mhob asiantaeth a sefydliad ynghyd â monitro a chraffu ar drefniadau a pherfformiad diogelu plant.
Cadeirio
Mae trefniadau cadeirio Grŵp Craidd y Bwrdd Lleol Diogelu Plant fel a ganlyn:
- Cadeirydd cyntaf Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion yw Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Cymdeithasol a fydd yn gwasanaethu tan fis Ebrill 2009;
- Y Dirprwy Gadeirydd yw Cyfarwyddwr Arweiniol Plant a Phobl Ifanc a fydd yn cymryd y gadeiryddiaeth o fis Ebrill 2009 ymlaen.
- Wedi hynny, bydd y gadeiryddiaeth yn symud o amgylch rhwng yr asiantaethau cyfansoddol bob yn ddwy flynedd gyda’r Dirprwy Gadeirydd yn cymryd yr awennau fel Cadeirydd.
- Bydd y trefniadau hyn yn galluogi rhannu’r dyletswyddau gweinyddol rhwng asiantaethau.
Cadeiryddion Grwpiau Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant
- Gweler Atodiad 2 a 3
- Bydd y trefniadau ar yr un sail â rhai Bwrdd Craidd Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant.
8. Adolygiadau Achosion Difrifol
Mae Rheoliadau Byrddau Lleol Diogelu Plant (Cymru) 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Lleol Diogelu Plant ar gyfer yr ardal wneud adolygiad achosion difrifol lle gwyddys neu yr amheuir bod plentyn yn destun camdriniaeth neu esgeulustod a:
- Bod plentyn yn marw; neu
- Bod plentyn yn cael anaf a allai fygwth ei fywyd neu nam difrifol a pharhaol ar ei iechyd a’i ddatblygiad neu iddo fod yn destun camdriniaeth rywiol enwedig o ddifrifol.
Ar ben hyn, dylai’r Bwrdd Lleol Diogelu Plant wneud adolygiad achosion lle bo’r canlyniad wedi digwyddiad :
- Bod plentyn wedi cyflawni hunanladdiad;
- Bod rhiant plentyn wedi’i ladd a bod adolygiad o ddynladdiad domestig wedi’i gychwyn
- Bod rhiant sy’n dioddef o salwch y meddwl wedi lladd plentyn.
Mae Grŵp Adolygu Achosion Difrifol Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion yn cymryd y cyfrifoldeb arweiniol am wneud adolygiad achosion difrifol i blant sy’n byw yn y sir neu sy’n trigo fel arfer yn y sir.
Atodiad 1
Grŵp Craidd Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion
Aelodau ar 1 Ebrill 2008
Cadeirydd: Parry Davies, Cyfarwyddwr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion;
Gareth Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol Plant a Phobl Ifanc / Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Ceredigion;
Eiri Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio a Gwasanaethau i Gleifion, Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda;
Jane Harris, Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda;
Dr June Picton, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion a Sir Benfro;
Dr Hywel Williams, Meddyg Dynodedig, GICC;
Janet Evans, Nyrs Ddynodedig, GICC;
Uwcharolygydd Alun Harries, Heddlu Dyfed Powys, Rhanbarth Ceredigion;
Mark Alman, Rheolwr Ardal, Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys;
I’w benodi, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion gan gynrychioli Tîm Troseddau Ieuenctid Ceredigion
Ann Rees, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Adran Tai Ceredigion.
Ruth Harrison a Jerry Green, Cadeiryddion Grwpiau Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant.
Therese Taylor, Gweinyddwr.
Atodiad 2
Grŵp Pobl Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion
Y swyddogaeth yw: -
- Ystyried achosion a gyflwynwyd gan broffesiynolion/asiantaethau i gael adolygiad achosion difrifol posib, gwneud argymhelliad ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd Lleol Diogelu Plant am y cwestiwn a ddylai adolygiad ddigwydd a gwneud yr adolygiad.
Aelodau ar 1 Ebrill 2008.
Mark Alman, Rheolwr Ardal, Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed-Powys;
Dr Hywel Williams, Meddyg Dynodedig, GICC;
Janet Evans, Nyrs Ddynodedig, GICC;
Prif Arolygydd Dros Dro Jonathan Tatton, Heddlu Dyfed-Powys;
Eiri Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio a Gwasanaethau i Gleifion, Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda;
Aled Evans, Cydlynydd Cynhwysiant a Diogelu Plant, Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol.;
Jerry Green, Rheolwr Sicrwydd Ansawdd/Diogelu Plant, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion
Atodiad 3.
Grŵp Pobl Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion
Bydd Grŵp Pobl Rhwydwaith y Bwrdd Lleol Diogelu Plant yn ymgymryd â swyddogaethau sy’n gysylltiedig â’r amcan gydlynol a swyddogaethau gorchwyl/gorffen eraill.
Bydd swyddogaethau Grŵp Pobl Rhwydwaith y Bwrdd Lleol Diogelu Plant yn cynnwys:
- Cynllunio, hwyluso a monitro’r hyfforddiant ym maes diogelu plant i broffesiynolion, cyflogeion a gwirfoddolwyr yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan weithio â phlant a theuluoedd;
- Cynyddu ymwybyddiaeth proffesiynolion, cyflogeion a gwirfoddolwyr sy’n gweithio â phlant, teuluoedd ac oedolion am faes diogelu plant a diogelu/hyrwyddo lles plant;
- Ymgysylltu â’r cyhoedd ym maes diogelu/hyrwyddo lles plant;
- Cyflenwi a chyfrannu at Gynllun Busnes Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion;
- Cydlynu a chyfathrebu cyfraniad Rhwydwaith y Bwrdd Lleol Diogelu Plant at y Cynllun Plant a Phobl Ifanc;
- Cysylltu â Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc ar agenda ehangach Rhwydwaith y Bwrdd Lleol Diogelu Plant i ddiogelu/hyrwyddo lles plant;
- Hyrwyddo mynediad at waith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion drwy gynnal y wefan a darparu’r wybodaeth arall;
- Swyddogaethau gorchwyl/gorffen, gan gynnwys cyfrifoldeb am ddatblygu prosiectau.
Aelodau ar 1 Ebrill 2008:
Cadeirydd: Ruth Harrison, Nyrs Benodol Diogelu Plant, Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda;
Alun Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Partneriaethau a Chynllunio, Plant a Phobl Ifanc
Ruth Wakelam, Rheolwr Rhanbarthol, Ymddiriedolaeth Brawf Dyfed-Powys, Ceredigion Division;
Margaret Davies, Athrawes Ymgynghorol ym maes Cynhwysiant, Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Ceredigion;
Gloria Smith, Swyddog Hyfforddiant Diogelu Plant, GICC;
Natalie Hardess, Cydlynydd Fforwm Camdriniaeth Ddomestig Ceredigion;
Jerry Green, Sicrwydd Ansawdd/Rheolwr Diogelu, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion;
Annette Jones, Rheolwr Tîm, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion;
Sandra Savinelli, Swyddog Hyfforddiant, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion;
Ann Sweeting, Pen Swyddog Ieuenctid; Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Ceredigion;
DS Catherine Cook, Uned Diogelu’r Cyhoedd, Heddlu Dyfed-Powys;
Gary Taylor, Rheolwr y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol;
Gill Byrne, Swyddog Datblygu Chwarae Ceredigion RAY
Diane Williams, Uwch Ymarferydd, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.
- Aelodau ychwanegol i’w cyfethol yn unol â gofynion y grŵp;
- Bydd y grŵp yn cyfarfod bob yn 3 mis fan leiaf;
- Mae angen cworwm o aelodau ar y cyfarfodydd o dair asiantaeth;
- Is-gadeirydd i’w benodi.
Atodiad 4
Grŵp Gweithrediadau Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion
Bydd Grŵp Gweithrediadau Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion yn bennaf gyfrifol am gyflawni’r amcan o sicrhau pa mor effeithiol yw mesurau a gymerir i ddiogelu plant a diogelu/hyrwyddo lles plant.
Y swyddogaethau yw:
- Monitro ac adolygu’r broses o ddiogelu plant a’i chanlyniadau gan lunio adroddiad rheoli chwarterol ar gyfer Grŵp Craidd Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion;
- Datblygu meini prawf ar gyfer mesur effeithlonrwydd a pherfformiad asiantaethau wrth wneud eu cyfrifoldebau ym maes diogelu/hyrwyddo lles plant;
- Datblygu protocolau a gweithdrefnau diogelu/amddiffyn plant fel bo rhaid;
- Cynrychioli Bwrdd Lleol Datblygu Plant Ceredigion ar Fforwm Datblygu Plant Rhanbarthol Dyfed-Powys a Grŵp Adolygu Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru Gyfan er mwyn datblygu protocolau a gweithdrefnau;
- Cydlynu â gofynion Diogelu Plant Fframwaith y Gwasanaeth Cenedlaethol;
- Swyddogaeth gorchwyl a gorffen fydd datrys problemau, hynny yw, datblygu protocol i ymateb i faterion sydd a wnelo â diogelu ac amddiffyn plant a dynnwyd at sylw Rhwydwaith y Bwrdd Lleol Diogelu Plant;
- Bydd swyddogaeth gorchwyl/gorffen ar ffurf Apeliadau Cynadleddau Diogelu Plant.
Aelodau ar 1 Ebrill 2008
Cadeirydd: Jerry Green, Rheolwr Sicrwydd Ansawdd/Diogelu, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion;
Is-Gadeirydd: Sian Howys, Cadeirydd Cynadleddau Diogelu Plant Annibynnol;
Dr Duraid Hussein, Pediatregydd Ymgynghorol, Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda;
Annette Jones, Rheolwr Tîm, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion;
DI Mark James, Uned Diogelu’r Cyhoedd Ceredigion, Heddlu Dyfed-Powys;
Ruth Wakelam, Rheolwr Rhanbarthol, Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed-Powys, Rhanbarth Ceredigion;
Ruth Harrison, Nyrs Benodol Diogelu Plant, Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda;
Aled Evans, Cydlynydd Cynhwysiant a Diogelu Plant, Addysg a Gwasanaethau Cymunedol;
Polly Leett, Cyfarwyddwr Dirprwy Nyrs, Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion a Sir Benfro;
Dr Heather Nicholls, Meddyg Teulu;
Elfed Hopkins, Rheolwr Gwasanaethau, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion.;
Liam Macpherson, Tîm Troseddau Ieuenctid Ceredigion;
Lynette Evans, Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd;
Angela Lodwick, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.
- Aelodau eraill i’w cyfethol yn unol â gofynion y grwpiau gorchwyl/gorffen.
- Bydd y grŵp yn cyfarfod bob yn 3 mis fan leiaf
- Mae angen cworwm o aelodau ar y cyfarfodydd o dair asiantaeth
Atodiad 5
Grŵp Adnoddau Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion
Bydd y swyddogaethau yn cynnwys:
- Ystyried yr arian a’r adnoddau sydd eu hangen i wneud swyddogaethau Rhwydwaith y Bwrdd Lleol Diogelu Plant;
- Rheoli’r adnoddau.
Bwrdd Craidd Rhwydwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant sy’n gwneud y swyddogaeth hon ar hyn o bryd. |