Ydych chi'n Poeni? Beth Ddylwn Ei Wneud Os Dwi’n Poeni Bod Plentyn Yn Cael Ei Gam-Drin?
Rhagor o Wybodaeth:
Mae gan bob plentyn yr hawl i fod yn ddiogel.
Cyfrifoldeb pawb yw diogelu plant.
Os gwyddoch chi am blentyn sydd wedi’i niweidio, ei esgeuluso neu’i gam-drin, yna cysylltwch ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion: -
Sut i gysylltu:
Rhif ffôn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion yn ystod y dydd yw 01545 574000. Oriau’r swyddfa yw 8.45 am i 5.00 pm, Llun i Iau, a 8.45 am i 4.30 pm ar ddydd Gwener.
Ffoniwch 0845 6015392 y tu allan i’r oriau hyn
Gellwch ffonio Heddlu Dyfed Powys ar 0845 330200
Cofiwch weithredu cyn gynted â phosib.
Os gwnewch chi oedi efallai y bydd arwyddion y cam-drin yn diflannu a bydd ymchwilio i’r pryderon, a diogelu’r plentyn, yn anoddach.
|