Proffesiynol:
Protocol Diogelu a Hyrwyddo Lles Plant sy’n byw â Cham-drin Domestig
Protocol Trothwyau parthed Ymholiadau ar y cyd rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu neu gan Un Asiantaeth o dan Adran 47 ym maes Diogelu Plant
Protocol Grŵp Craidd Amddiffyn Plant
Rhagor o Wybodaeth:
Diogelu Plant - Gwybodaeth i Ddarparwyr Gofal Plant
Canllaw i bobl broffesiynol sy’n mynychu cyfarfodydd amddiffyn plant
Os cewch eich gwahodd i Gyfarfod Amddiffyn Plant, efallai y bydd gennych gwestiynau am yr hyn fydd yn digwydd a beth a ddisgwylir ohonoch. Nod y canllaw hyn yw ateb rhai o’ch cwestiynau, ond os dymunech gael rhagor o wybodaeth, dylech siarad â’ch rheolwr/wraig llinell neu’r arbenigwr/wraig amddiffyn plant penodol yn eich asiantaeth neu Gadeirydd Annibynnol y Cyfarfod Amddiffyn Plant (01545) 572639.
Beth yw cyfarfod amddiffyn plant?
Mae’r Cyfarfod Amddiffyn Plant yn rhan allweddol o’r trefniadau a lunnir ar gyfer cydweithio rhyngasainatethol er mwyn amddiffyn plant. Gelwir cyfarfod amddiffyn plant cychwynnol wedi i ymholiadau ynghylch amddiffyn plant ddod i ben. Mae’r cyfarfod yn dod ag aelodau’r teulu, gan gynnwys y plentyn pan fo hynny’n briodol, a’r bobl broffesiynol hynny sydd wedi bod yn ymwneud fwyaf â’r plentyn a’r teulu ynghyd.
Pwrpas y cyfarfod amddiffyn plant.
Pwrpas y cyfarfod yw: -
Rhannu a gwerthuso gwybodaeth ynghylch iechyd, datblygiad a gweithrediad y plentyn, ynghyd â gallu’r rhieni neu warcheidwaid i sicrhau diogelwch y plentyn a hybu iechyd a datblygiad y plentyn.
Er mwyn penderfynu a yw’r plentyn neu unrhyw blant eraill yn y teulu wedi dioddef niwed difrifol ac os oes yna berygl y gallant gael niwed yn y dyfodol.
Er mwyn penderfynu pa weithredu sydd ei angen yn y dyfodol er mwyn diogelu’r plentyn ac annog ei ffyniant, sut mae bwrw ‘mlaen â‘r gweithredu a pha ddeilliannau a ddisgwylir.
Pwy ddylai fynychu?
Gwahoddir pobl broffesiynol ac ymarferwyr sydd â chyfraniad sylweddol i’w wneud, a hynny oherwydd eu gwybodaeth nhw ynghylch y plentyn neu’r teulu, neu’n deillio o’u harbenigedd broffesiynol.
Gwahoddir aelodau’r teulu. Yng Ngheredigion, fe fydd plentyn sy’n derbyn addysg uwchradd fel rheol yn derbyn gwahoddiad i fod yn bresennol.
Gall fod amgylchiadau eithriadol pan fydd pobl broffesiynol yn pryderu ynghylch trais neu fygythion gan aelod o’r teulu. Dylid hysbysu Cadeirydd y Cyfarfod ynghylch y mater hwn cyn y cyfarfod.
Cyfarfodydd amddiffyn plant cychwynnol ac adolygiadol.
Ceir dau fath o Gyfarfod Amddiffyn Plant: -
1. Y Cyfarfod Amddiffyn Plant Cychwynnol:
Dyma’r cyfarfod cyntaf, ac fe’i trefnir fel arfer wedi i’r Gweithiwr/wraig Cymdeithasol a Swyddog yr Heddlu wneud ymholiadau amddiffyn plant. Dylai’r cyfarfod hwn ddigwydd o fewn 15 diwrnod gwaith o gynnal y cyfarfod strategol rhwng yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn derbyn hysbysiad o’r cyfarfod tan yn hwyr iawn, ond dylech wneud popeth o fewn eich gallu i fod yn bresennol.
Byddwch yn derbyn gwahoddiad ysgrifenedig yn rhoi manylion y teulu, rhesymau dros y cyfarfod a rhestr o bobl fydd yn bresennol.
Fe fydd y Cyfarfod Amddiffyn Plant Cychwynnol yn penderfynu a ddylid rhoi enw’r plentyn a’r Gofrestr Amddiffyn Plant Ceredigion. Os yw hyn yn angenrheidiol, fe fydd yn rhaid cytuno ar Gynllun Amddiffyn Plant.
2. Y Cyfarfod Amddiffyn Plant Adolygiadol:
Adolygir enw pob plentyn sydd ar Gofrestr Amddiffyn Plant Ceredigion. Fe fydd yr adolygiad cyntaf yn digwydd o fewn 3 mis a’r adolygiadau yn dilyn hynny o fewn 6 mis .
Tasg y cyfarfod hwn yw adolygu’r Cynllun Amddiffyn Plant, a hynny er mwyn sicrhau y bydd y plentyn yn parhau i dderbyn gofal digonol; penderfynu a ddylai enw’r plentyn aros ar Gofrestr Amddiffyn Plant Ceredigion, ac os y bydd, penderfynu a ddylid newid y cynllun.
Paratoi ar gyfer y cyfarfod amddiffyn plant.
Gadewch ddigon o amser i baratoi ar gyfer y cyfarfod ac ystyriwch y wybodaeth sydd gennych ynghylch y materion canlynol: -
Unrhyw beth o bwys sydd wedi digwydd i’r teulu neu i’r plentyn.
Iechyd, datblygiad ac anghenion y plentyn.
Gallu’r rheini/gofalwyr i ddiogelu’r plentyn a hyrwyddo’i (h)iechyd a sicrhau ei (d)datblygiad.
Unrhyw gefnogaeth ychwanegol gan y teulu neu’r gymuned sy’n bwysig i’r teulu.
Dylai pob asiantaeth gynrychioladol sy’n mynychu’r cyfarfod ddarparu adroddiad ysgrifenedig o flaen llaw a dylent fod yn barod i ddarllen eu hadroddiad yn y cyfarfod. Lle bo hynny’n bosibl, dylid dangos yr adroddiad i’r teulu cyn y diwrnod y cynhelir y cyfarfod.
Mae’n bwysig y gall y cyfarfod rannu’r holl wybodaeth berthnasol er mwyn deall amgylchiadau’r teulu ac asesu i ba raddau y mae’r plentyn mewn perygl.
Os nad ydych yn medru bod yno, dylech hysbysu Cadeirydd y cyfarfod a gofynnwch i weithiwr uwch ddirprwyo, (os yw hynny’n briodol), ac anfonwch eich adroddiad ysgrifenedig at y Cadeirydd o flaen llaw. Fe gofnodir eich ymddiheuriadau a’ch safbwyntiau a fynegwyd gennych.
Os nad ydych yn mynychu cyfarfodydd amddiffyn plant yn rheolaidd, efallai nad ydych yn llwyr ymwybodol o’r hyn a ddisgwylir ohonoch. Os mai dyma’r achos, trafodwch y mater â’ch rheolwr/wraig neu Gadeirydd y Cyfarfod, gan ei bod yn bwysig iawn eich bod yn teimlo y gallwch gyfrannu’n llawn. Mae eich cyfraniad yn hollbwysig.
Gwybodaeth gyfrinachol.
Hanfod llwyddiant unrhyw gydweithio rhyngasiantaethol yw cyfnewid a rhannu gwybodaeth berthnasol. Ymhob achos lle y ceir honiadau o gam-drin plant neu amheuaeth o ran hynny, mae’n ddyletswydd rhannu gwybodaeth berthnasol. Os oes gennych chi bryderon ynghylch datgelu gwybodaeth, fe fydd eich asiantaeth yn rhoi arweiniad i chi.
Atodiad 3, ‘Diogelu Plant’: Mae ‘Gweithio gyda’n gilydd at Ddeilliannau Positif 2004’ yn rhoi cyngor defnyddiol ynghylch rhannu gwybodaeth.
Cedwir pob darn o wybodaeth a roddir yn y cyfarfod yn gwbl gyfrinachol ac ni ddatgelir unrhyw beth y tu allan i’r cyfarfod at ba ddiben bynnag, oni bai y bydd Cadeirydd y Cyfarfod yn rhoi caniatâd.
Ydych chi’n gwneud penderfyniad ynghylch rhoi enw plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant?
Pan fyddwch yn mynychu Cyfarfod Amddiffyn Plant, gofynnir i chi a ddylid rhoi enw’r plentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ai peidio, a gofynnir i chi leisio’ch barn ynghylch y mater. Dylech gadw mewn cof y cwestiwn canlynol pan fyddwch yn dod i benderfyniad ynghylch cofrestru plentyn:
Oes yna berygl parhaus y bydd y plentyn yn cael niwed difrifol?
Pan fyddwch yn ystyried y wybodaeth ac yn dod i’r penderfyniad, yr hyn sy’n dyngedfennol yw naill ai…
Bod y plentyn yn ymddangos ei b/fod wedi dioddef camdriniaeth, afiechyd neu drafferthion wrth ddatblygu o ganlyniad i gamdriniaeth gorfforol, emosiynol neu esgeulustod, a’r farn broffesiynol yw y byddai’r cam drin neu wendidau’n debygol o barhau; neu
Fod barn broffesiynol, a gefnogir gan ganfyddiadau’r ymholiadau yn yr achos unigol hwn neu gan dystiolaeth yr ymchwiliad, yn nodi ei bod yn debygol y bydd y plentyn yn dioddef camdriniaeth, afiechyd neu drafferthion wrth ddatblygu o ganlyniad i gamdriniaeth gorfforol, emosiynol, cam-drin rhywiol neu esgeulustod.
Pan roddir enw plentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, nid yw rhoi’r enw ar y gofrestr ynddo’i hun yn golygu y diogelir y plentyn oni bai y bydd Cynllun Amddiffyn Plant yn cyd-daro â hyn. Mae’r Cynllun Amddiffyn Plant yn argymell dulliau y gall asiantaethau, pobl broffesiynol a’r teulu weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau y caiff y plentyn ei (d)diogelu rhag niwed yn y dyfodol.
Beth ddylwn ei wneud os wyf yn teimlo nad yw penderfyniad y cyfarfod a’r cynllun wedi diogelu’r plentyn yn ddigonol?
Os ydych yn credu na chaiff plentyn ei (d)diogelu’n ddigonol gan benderfyniad y Cyfarfod Amddiffyn Plant a’r cynllun, dylech ddwyn y mater i sylw’r rheolydd.
Gweler y protocol ‘Datrys Gwahaniaethau Proffesiynol yn ymwneud â‘r Broses Amddiffyn Plant’ yn Atodiad 7 y Dulliau Gweithredu Amddiffyn Plant i Gymru Gyfan.
Cadeirydd y cyfarfod amddiffyn plant.
Cyflogir Cadeirydd y Cyfarfod Amddiffyn Plant gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion, ond nid oes ganddo/ganddi gyfrifoldebau o safbwynt gweithredol neu fel rheolydd llinell i’r plentyn neu’r teulu. Mae gan y Cadeirydd brofiad a gwybodaeth o amddiffyn plant.
Rôl y Cadeirydd yw sicrhau bod y cyfarfod yn canolbwyntio ar anghenion y plentyn; bod pawb yn medru cyfrannu’n llawn at y drafodaeth a’r penderfynu; y caiff pawb eu trin yn deg ac y perchir pawb; a bod penderfyniadau a chynlluniau’r cyfarfod yn diogelu’r plentyn.
Agenda’r cyfarfod amddiffyn plant cychwynnol.
Fe fydd y Cyfarfod Amddiffyn Plant Cychwynnol yn dilyn yr agenda ganlynol:
- Cyflwyno cynrychiolwyr yr asiantaethau i aelodau’r teulu.
- Cyflwyniad gan y Cadeirydd a fydd yn amlinellu’r rhesymau dros gynnal y cyfarfod a’r modd y’i cynhelir.
- Cyflwyno’r pryderon, gan gynnwys manylion yr ymchwiliad amddiffyn plant ac asesiadau.
- Cyflwyno a thrafod adroddiadau o asiantaethau ynghylch digwyddiadau o bwys, gwybodaeth gefndirol a iechyd a datblygiad pob plentyn unigol.
- Ymatebion a gwybodaeth gan aelodau’r teulu, y plant sy’n mynychu a safbwyntiau’r plant nad ydynt yn bresennol.
- Crynodeb o’r prif faterion gan y Cadeirydd.
- Penderfynu a ddylid rhoi enw’r plentyn ar Gofrestr Amddiffyn Plant Ceredigion gan y bobl broffesiynol sy’n bresennol, sy’n cynnwys dadansoddiad a safbwyntiau i benderfynu a yw’r plentyn mewn perygl parhaus o gael niwed.
Os penderfynir rhoi enw’r plentyn ar y gofrestr, llunnir Cynllun Gweithredu Amddiffyn Plant, gan gynnwys enwebu Gweithiwr/wraig Allweddol a
Grŵp Craidd. Dylai’r argymhellion ar y cynllun ymdrin â’r modd y gellir rheoli’r peryglon.
- Os na chofrestrir yr enw, ceir trafodaeth gyda’r teulu ynghylch rhoi cyngor, cefnogaeth a darparu gwasanaethau.
Agenda’r cyfarfod amddiffyn plant adolygiadol
- Cyflwyno cynrychiolwyr yr asiantaethau i aelodau’r teulu.
- Cyflwyniad gan y Cadeirydd a fydd yn amlinellu’r rhesymau dros gynnal y cyfarfod a modd y’i cynhelir.
- Adroddiad y Gweithiwr/wraig Allweddol ar gasgliadau’r Cynllun Amddiffyn Plant.
- Cyflwyniad a thrafod adroddiadau’r asiantaethau a’r Grwp Craidd ar ddigwyddiadau o bwys, gwybodaeth gefndirol, a iechyd a datblygiad y plentyn.
- Ymatebion a gwybodaeth gan aelodau’r teulu, y plant sy’n mynychu a safbwyntiau’r plant nad ydynt yn bresennol.
- Crynodeb o’r prif faterion gan y Cadeirydd.
- Penderfynu a ddylid rhoi enw’r plentyn ar Gofrestr Amddiffyn Plant Ceredigion gan y bobl broffesiynol sy’n bresennol, sy’n cynnwys dadansoddiad a safbwyntiau i benderfynu a yw’r plentyn mewn perygl parhaus o gael niwed difrifol.
- Os penderfynir dros roi enw’r plentyn ar y gofrestr, llunnir Cynllun Gweithredu Amddiffyn Plant, gan gynnwys enwebu Gweithiwr/wraig Allweddol a Grŵp Craidd. Dylai’r argymhellion ar y cynllun ymdrin â’r modd y gellir rheoli’r peryglon.
- Os na chofrestrir yr enw, ceir trafodaeth gyda’r teulu ynghylch rhoi cyngor, cefnogaeth a darparu gwasanaethau.
FEL Y NODA ‘GWEITHIO GYDA’N GILYDD ER MWYN DIOGELU PLANT’: “ER MWYN SICRHAU ARFER DA, RHAID WRTH GYDWEITHIO RHWNG GWAHANOL ASIANTAETHAU A PHOBL BROFFESIYNOL, GWEITHIO MEWN MODD SENSITIF GYDA RHIENI A GOFALWYR, A HYNNY ER BUDD Y PLENTYN, A CHYFLEU BARN BROFFESIYNOL GYDA GOFAL YN SEILIEDIG AR ASESIAD LLAWN O’R WYBODAETH SYDD AR GAEL”
Rhai termau a ddefnyddir yn aml mewn cyfarfodydd amddiffyn plant
Y Gofrestr Amddiffyn Plant.
Mae’r Gofrestr Amddiffyn Plant yn rhestr gyfrinachol o enwau plant a luniwyd yn y Cyfarfod Amddiffyn Plant Cychwynnol, a hynny oherwydd bod yna bryderon eu bod yn debygol o gael niwed difrifol. Ceidwad y Gofrestr Amddiffyn Plant a Heddlu Dyfed Powys sydd â’r ofalaeth amdani, (os bydd yn rhaid cyfeirio ati y tu allan i oriau swyddfa). Pobl broffesiynol yn unig sydd â‘r hawl i gyfeirio ati, a gwnânt hynny pan fydd ganddynt bryderon ynghylch diogelwch a lles plentyn.
Y Cynllun Amddiffyn Plant
Pan roddir enw plentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, nid yw rhoi’r enw ar y gofrestr ynddo’i hun yn golygu y diogelir y plentyn oni bai y bydd Cynllun Amddiffyn Plant yn cyd-daro â hyn.
Mae’n gyfrifoldeb ar y rheiny sy’n bresennol yn y cyfarfod i argymell y modd y dylai asiantaethau, pobl broffesiynol a’r teulu weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau y cedwir y plentyn yn ddiogel yn y dyfodol. Felly, fe fydd yn rhaid i’r rheiny sy’n bresennol yn y cyfarfod greu cynllun amlinellol a fydd yn rhestru’r hyn y bydd yn rhaid i’r holl asiantaethau ac aelodau’r teulu ei wneud, gan gytuno ar y tasgau a’r ystod amser. Yna, bydd y Grŵp Craidd yn amlinellu manylion y cynllun.
Y Grŵp Craidd
Dewisir y Grwp Craidd yn y gynhadledd, ac mae’n cynnwys pobl broffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r teulu.
Mae’r Grŵp Craidd yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu’r Cynllun Amddiffyn Plant fel dull manwl o weithio, a hynny o fewn y cynllun a amlinellwyd ac a gytunwyd arno yn y cyfarfod.
Y Gweithiwr/wraig Allweddol sydd â’r rôl bwysicaf, ac mae gan bob aelod o’r Grwp Craidd gyfrifoldeb ar y cyd dros greu a gweithredu’r cynllun. Os ydych yn aelod o’r Grwp Craidd, mae’n hanfodol eich bod yn mynychu.
Canllaw a gwybodaeth ychwanegol
Caiff Canllaw Amddiffyn Plant ei gynnwys yn “Gweithio Gyda’n Gilydd er mwyn Diogelu Plant” (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2000); “Dulliau Gweithredu Amddiffyn Plant i Gymru Gyfan” (2002), a fabwysiadwyd gan Bwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Plant Ceredigion, ac mewn cyhoeddiad mwy diweddar gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, “Diogelu Plant: Gweithio Gyda’n Gilydd at Ddeilliannau Positif”.
Cysylltiadau defnyddiol
Cadeirydd Annibynnol y Cyfarfod/ Ceidwad y Gofrestr Amddiffyn Plant
Rhif ffôn: 01545 572639
Ffacs: 01545 571473
e-bost: jerryg@ceredigion.gov.uk
Gweinyddydd Amddiffyn Plant / Person sy’n Cymryd y Cofnodion.
Rhif ffôn: 01545 572639
Ffacs: 01545 571473
e-bost: maryb@ceredigion.gov.uk
|